2013 Rhif 3137 (Cy. 310)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”).  Mae Rheoliadau 2007 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, pan fydd cais ysgrifenedig yn dod i law oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, gyflenwi, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, unrhyw wybodaeth y bydd yr awdurdod yn gofyn amdani mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2007 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ddarparu i awdurdod lleol wybodaeth ychwanegol at yr wybodaeth y mae eisoes yn ofynnol iddo ei ddarparu yn rhinwedd Rheoliadau 2007 mewn perthynas â gwahardd disgyblion yn barhaol.  Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2007 ymhellach er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol mewn perthynas â gwahardd disgyblion am gyfnod penodol. 

 


2013 Rhif 3137 (Cy. 310)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed                               10 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       12 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym                         13 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 13 Ionawr 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

 

(2) Yn rheoliad 3, yn y man priodol, mewnosoder—

“ystyr “gwaharddiad cyfnod penodol” (“fixed period exclusion”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi ei wahardd am gyfnod neu gyfnodau penodol, am resymau disgyblu, o’r ysgol y gwneir cais iddi o dan reoliad 3 neu 5;”.

(3) Yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn lle paragraff 1 rhodder—

“1

Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o’r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth—

(a)   rhif unigryw cyfredol disgybl;

(b)  rhif unigryw cyfredol dysgwr, os yw’n hysbys;

(c)   cyfenw;

(ch) enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(d)  enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(dd) rhyw;

(e)   dyddiad geni;

(f)   y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol;

(ff)  y rheswm dros y gwaharddiad; ac

(g)  a oedd y gwaharddiad yn waharddiad parhaol neu’n waharddiad cyfnod penodol.

 

2

Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi ei wahardd o’r ysgol am gyfnod penodol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth—

(a)   rhif unigryw cyfredol disgybl;

(b)  rhif unigryw cyfredol dysgwr, os yw’n hysbys;

(c)   cyfenw;

(d)  enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(e)   enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(f)   rhyw;

(g)  dyddiad geni;

(h)  y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad;

(i)   nifer y sesiynau ysgol y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt;

(j)   y rheswm dros y gwaharddiad; ac

(k)  a oedd y gwaharddiad yn waharddiad parhaol neu’n waharddiad cyfnod penodol.”.

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

10 Rhagfyr 2013



([1])           1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe’i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 153, a diwygiwyd is-adran 1(a)(i) ymhellach gan O.S. 2010/1158.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/673) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.12).

([3])           O.S. 2007/3562 (Cy.312) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/2325 (Cy.242).